Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Hydref 2018

Amser: 08.30 - 08.55
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd)

Julie James AC

Darren Millar AC

Rhun ap Iorwerth AC

Neil Hamilton AC

Staff y Pwyllgor:

Aled Elwyn Jones (Clerc)

Eraill yn bresennol

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Roedd holl aelodau'r pwyllgor yn bresennol ar gyfer y cyfarfod cychwynnol am 8.30am. Pan wnaeth y Pwyllgor Busnes ailymgynnull am 1pm, anfonodd Rhun ap Iorwerth a Neil Hamilton eu hymddiheuriadau. Roedd Dai Lloyd yn bresennol fel dirprwy ar gyfer Rhun ap Iorwerth.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr Wythnos Hon

Dydd Mawrth

·         Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.

Dydd Mercher

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

Dydd Mercher 7 Tachwedd 2018 -

·         Cydraddoldeb a Brexit - Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) – gohiriwyd tan 14 Tachwedd

 

Dydd Mercher 14 Tachwedd 2018 -

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i baratoadau ar gyfer disodli cyllid yr UE yng Nghymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud) – gohiriwyd o 7 Tachwedd

</AI6>

<AI7>

4       Pwyllgorau

</AI7>

<AI8>

4.1   Dyrannu llefydd ar bwyllgorau a chadeiryddion rhwng grwpiau

Trafododd Rheolwyr Busnes dyrannu cadeiryddion pwyllgorau, gan gynnwys cynnig posibl i ailddyrannu cadeiryddiaeth y Pwyllgor Deisebau i'r Ceidwadwyr Cymreig ynghyd â newid yn y drefn y gelwir ar Arweinyddion a Llefarwyr yn ystod cwestiynau fel eu bod bob amser yn cael eu galw yn nhrefn maint y grŵp.

Gwrthwynebodd Neil Hamilton y cynnig ar y sail ei fod yn credu ei y byddai adlewyrchiad teg o faint y grŵp yn golygu y byddai gan UKIP un gadeiryddiaeth pwyllgor.

Nododd y Llywydd gan mai hi sy'n gyfrifol am drefn y cwestiynau, mae angen amser arni i ystyried y cynnig ac felly gofynnodd i'r Pwyllgor Busnes ailymgynnull am 1pm.

Bydd Darren Millar a Rhun ap Iorwerth yn trafod sut y dylid llenwi'r lle gwag ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y tu allan i'r pwyllgor.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid adolygu'r Rheolau Sefydlog penodol sy'n gysylltiedig â'r mater hwn erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.

</AI8>

<AI9>

Gwnaeth Pwyllgor Busnes ailymgynnull am 1pm i drafod dyraniad cadeiryddion pwyllgorau a threfn cwestiynau'r gwrthbleidiau.

Gwnaeth Pwyllgor Busnes ailymgynnull am 1pm. Dywedodd y Llywydd fod angen mwy o amser arni i drafod goblygiadau'r cynnig a wnaed ac y bydd yn gohirio pob penderfyniad sy'n ymwneud â dyrannu cadeiryddion pwyllgorau tan y cyfarfod wythnos nesaf. Anogodd y pwyllgor i barhau i drafod gyda'r bwriad o benderfynu ar gynnig a allai gael mwy o gonsensws na'r cynnig y cytunwyd arno gan y mwyafrif y bore yma. Er ei bod hi'n cydnabod mai disgresiwn y Llywydd yw mater trefn galw ar Arweinwyr a Llefarwydd, dywedodd y Llywydd y byddai'n cael ei harwain gan farn mwyafrif y Pwyllgor Busnes o ran y drefn y mae'n galw ar bobl yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog a chwestiynau i'r Gweinidogion.  </AI9>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>